Adroddiad Blynyddol Grŵp Trawsbleidiol

Ionawr 2016

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Ganser

 

1. Aelodaeth y Grŵp a deiliaid swyddi.

 

Julie Morgan AC, Cadeirydd

Andrew RT Davies AC

Janet Finch-Saunders AC

Elin Jones AC

Mike Hedges AC

 

Rhestr gwahoddedigion:

Holl Aelodau’r Cynulliad

Naomi Horne (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – Meddygaeth)

Paul Head (Breakthrough)

Annie Mulholland - claf

Barbara Burbidge - claf

Peter Thomas

Banc Canser Cymru

Phizer

ABPI

YMDDIRIEDOLAETH SEFYDLEDIG GIG Y ROYAL MARSDEN

Ysbyty Ganser Felindre

Sefydliad Canser Abertawe

Uned Treialon Canser Cymru

Caroline Walters, Macmillan

Rhwydwaith Canser De Cymru

Cronfa James Whale

Sara Morgan, Myeloma

Bowel Cancer Cymru

Novartis

NISCHR CRC

Boehringer Ingelheim-

 

2. Cyfarfodydd blaenorol y Grŵp ers y Cyfarfod Blynyddol diwethaf.

 

Cyfarfod 1: 21 Ebrill 2015, 8.00- 09:30. Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Cymru:

 

08:00 Cyflwyniad: Julie Morgan AC, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ganser.

08:05 Adroddiad Blynyddol Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser 2014 - blaenoriaethau ar gyfer y cynllun, heriau a gwelliannau: Dr Chris Jones – Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, GIG Cymru

08:25 Ymateb ar ran Cynghrair Canser Cymru: Susan Morris, Rheolwr Cyffredinol, Cymorth Canser Macmillan, Cymru. 

8.45 am – 9.30 Trafodaeth: Pawb

 

 

 

Cyfarfod 2: Dydd Mercher, 17 Mehefin 2015 - Sgrinio Canser.

 

·      Cyflwyniad: Julie Morgan AC, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ganser.

 • Cyflwyniad i Wasanaeth Sgrinio Cymru: Dr Rosemary Fox

 • Rhaglenni Sgrinio’r Coluddyn, Sgrinio’r Fron a Sgrinio Serfigol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol: Penaethiaid Rhaglenni

 • Gwaith cyfranogol er mwyn codi niferoedd a gwella anghydraddoldebau: Dr Sikha de Souza, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus

 • Trafodaeth ar y modd y gallwn gydweithio i wella cyfraddau sgrinio’r coluddyn a negeseuon sgrinio: Pawb

 

 

 

Cyfarfod 3. Dydd Mercher, 7 Hydref 2015. Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel

 

08:00 Cyflwyniadau a chroeso - Julie Morgan AC

08:05 Cyflwyniad ar Ganolfan Ymchwil Canser Cymru - Libby Batt a’r Athro John Chester

8:30am Trafodaeth ar sut y gallwn gydweithio â’r Ganolfan - Pawb

09:00 Cloi’r cyfarfod

 

Trafodaeth

 

 

Cyfarfod 4: Dydd Mercher, 27 Ionawr 2016. Ystafell Briffio’r Cyfryngau, y Senedd, 8am a 9:00.

 

Bydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a CLIC Sargent yn trafod eu hadroddiad Gwerthuso Gweithwyr Allweddol Nyrs Arbenigol a chanfyddiadau’r gwaith ymchwil a ddeilliodd o Flwyddyn gyntaf ymgyrch Gofal Gwell  ar gyfer Cleifion Canser Ifanc CLIC Sargent.

 

Agenda                  

8.00 – Croeso, Julie Morgan AC, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ganser.

08:05 Ethol Cadeirydd ac Ysgrifennydd

08:10 - Cyflwyno adroddiad Gwerthuso Gweithwyr Allweddol Nyrs Arbenigol CLIC Sargent.

08:20 - Cyflwyno canfyddiadau ymchwil o Flwyddyn gyntaf ymgyrch Gofal Gwell  ar gyfer Cleifion Canser Ifanc CLIC Sargent

08:40 - Trafodaeth ar rôl y gweithiwr allweddol, a sut y gallwn wella / sicrhau diagnosis cyflymach ar gyfer pobl ifanc â chanser.

09:00 Cloi’r cyfarfod

 

3. Lobïwyr proffesiynol, sefydliadau gwirfoddol ac elusennau y mae’r Grŵp wedi cyfarfod â hwy yn ystod y flwyddyn flaenorol.

 

Dim.

 

 

Datganiad Ariannol Blynyddol.

Ionawr 2016

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Ganser

Julie Morgan AC, Cadeirydd

Clare Bath, Cancer Research UK

 

Treuliau’r Ysgrifennydd  / Grŵp.

 

 

Dim.

 

 

£0.00

Cost yr holl nwyddau.

Ni phrynwyd nwyddau.

£0.00

Buddion a gafwyd gan y grŵp neu Aelodau unigol gan gyrff allanol.

Ni chafwyd buddion.

£0.00

Ysgrifenyddiaeth neu gymorth arall.

Ni chafwyd cymorth ariannol.

£0.00

Gwasanaethau a ddarparwyd i’r Grŵp, fel lletygarwch.

Talwyd am yr holl luniaeth gan y Cancer Research UK

Dyddiad

Disgrifiad o’r darparwr a’i enw

Cost

 

Darparwyd y bwffe gan Charlton House.

£ 138.00 x 4 rholiau bacwn a choffi ar gyfer cyfarfodydd brecwast

 

Cyfanswm cost ar gyfer y flwyddyn

 

£552.00